UDIDD header Research banner GettyImages-1178574685.jpg

Pwyllgor Ymgynghorol Addysgu ac Ymchwil


Ynglŷn â'r Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys dynion a menywod sydd ag anableddau dysgu a'u cefnogwyr. 


Rydym yn cyfarfod bob mis yn y Brifysgol i roi ein cyngor ar addysgu ac ymchwil sy'n ymwneud â phobl ag anabledd dysgu.


Gallwch weld ein gwaith blaenorol yma

UDID / LD Nursing Research TRAC

Cyfarfodydd

Rydym yn cyfarfod ar ddydd Iau olaf pob mis. Rhwng 10am a 3pm yn ystafell EM115 ar Gampws Glyn-taf. Dyma gyfarwyddiadau i'r campws.


Ceir adolygiad o'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf bob blwyddyn ac yna rydym yn cael egwyl ar gyfer yr haf ac yn dechrau eto ym mis Medi. Nid oes cyfarfod ym mis Rhagfyr. 

UDIDD - Learning Disability research

Agenda


Mae'r Agenda yn gynllun ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei drafod. Rydym yn cadw cofnod o'r hyn yr ydym wedi'i ddweud yn y Cofnodion.


  • Agenda cyfarfod mis Medi
  • Agenda cyfarfod mis Hydref
  • Agenda cyfarfod mis Tachwedd
  • Agenda cyfarfod mis Ionawr
  • Agenda cyfarfod mis Chwefror
TRAC UDIDD

Addysgu

Mae aelodau'r Pwyllgor yn addysgu myfyrwyr yn y brifysgol ac yn rhoi cyngor ar addysgu ac ymchwil sy'n ymwneud â phobl ag anabledd dysgu.

Rydym wedi cynnal dosbarthiadau i fyfyrwyr ar lawer o gyrsiau megis: nyrsys; heddlu; gweithwyr cymdeithasol a ceiropractyddion,


UDID / LD Nursing Research TRAC

Ymchwil 


Bu aelodau'r Pwyllgor yn gyd-ymchwilwyr, cynghorwyr a chyfranogwyr ar lawer o'r prosiectau ymchwil a wnaed gan ymchwilwyr UDIDD.

Mae'r Pwyllgor eisiau darganfod sut i wneud bywydau pobl ag anableddau dysgu hyd yn oed yn well. 

Mae gan y Pwyllgor brosiectau ymchwil cynhwysol – Ymchwilio i gam-drin; Lleisiau Anghofiedig


Cysylltwch â ni

Os hoffech gymryd rhan yn y Pwyllgor, cysylltwch ag Dr Stacey Rees

E-bost: [email protected]