Coronafeirws a Phobl ag Anableddau Dysgu

Learning Disability and the pandemic



Mae ein hymchwilwyr wedi rhyddhau canfyddiadau interim ar gyfer Cymru, o astudiaeth ehangach yn y DU o oedolion ag anableddau dysgu a'u profiadau yn ystod pandemig y coronafeirws.


Nod yr astudiaeth aml-ganolfan hon yn y DU, wedi ei seilio ar gyllid gan UK Research and Innovation, yw deall profiad oedolion ag anableddau dysgu dros 12 mis o'r pandemig.


Arweinir cangen Gymreig yr astudiaeth gan yr Athro Stuart Todd a Dr Edward Oloidi, ynghyd â Dr Steve Beyer (Prifysgol Caerdydd). Cynhaliodd eu tîm ymchwil gyfweliadau ar-lein gyda 149 o oedolion ag anableddau dysgu a chasglwyd data arolwg gan 77 o ofalwyr teulu neu weithwyr cymorth cyflogedig i bobl ag anableddau dysgu lluosog difrifol neu ddwys yng Nghymru. Mae tri cham i'r astudiaeth lle cysylltir â'r un cyfranogwyr i gasglu gwybodaeth ar dri achlysur gwahanol. Mae aelodau eraill y prosiect, yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn gweithredu yn yr un modd.


Mae’r canfyddiadau interim (sydd ar gael yma) yn dangos yr anawsterau unigryw a gafwyd gan oedolion ag anableddau dysgu. Nododd cyfranogwyr fod lefel y cymorth a'u mynediad at wasanaethau wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hwn yn grŵp o bobl sydd â lefel unigryw ac uchel o anghenion iechyd, ond cafodd apwyntiadau gofal iechyd eu canslo.  Cafodd effaith y cyfyngiadau symud a phryderon am y coronafeirws effaith andwyol ar eu lles.


Dywedodd Dr Oloidi: "Rydym newydd orffen ein hail don o gasglu data. Cyn bo hir, byddwn yn dechrau cam 3 yr astudiaeth ond rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig cyhoeddi adroddiad interim gan ein bod yn dal i fod yng nghanol sefyllfa frys sy'n cyson esblygu. Mae'n hollbwysig bod llunwyr polisïau yn ymwybodol o'r canfyddiadau.


"Yr hyn greodd yr argraff fwyaf arnaf i oedd lefel yr ymgyrchu a fu’n angenrheidiol i roi blaenoriaeth i oedolion ag anableddau dysgu o ran cael y brechlyn.  Rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i bobl ag anableddau dysgu yn y dyfodol."


Mae Prifysgol Caerdydd, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru, a Fforwm Cymru Gyfan yn cydweithio ar y prosiect yng Nghymru.  Bydd astudiaeth derfynol ar gael ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref a bydd yn cynnwys argymhellion i lunwyr polisïau ar sut i ymateb i unrhyw sefyllfa nas rhagwelwyd, o ran oedolion ag anableddau dysgu.


Dywedodd yr Athro Todd: "Mae hon yn astudiaeth hynod bwysig am lawer reswm.  Mae pobl ag anableddau dysgu wedi bod yn grŵp sydd â risg uchel o gael eu heintio gan COVID19, ac o farw ohono. Mae llawer o'r systemau cymorth iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu wedi lleihau'n sylweddol. Rhaid gwneud eu sefyllfa'n fwy gweladwy. Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn helpu. 


"Mae wedi bod yn llwyddiant oherwydd y cydweithio rhwng prifysgolion a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru. Hoffem adeiladu ar hynny hefyd i gadw'r ddeialog bwysig honno’n fyw y tu hwnt i'r astudiaeth. Mae gwers bwysig yn hynny hefyd."


Dywedodd Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan: "Roedd yn wych gweithio gyda Phrifysgol De Cymru ar y darn hollbwysig hwn o waith, yn ystod cyfnod pan oedd pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn agored iawn i niwed. 


"Mae'n bwysig cofio nad pandemig Covid 19 a achosodd yr anghydraddoldebau cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu; yr hyn wnaeth e oedd gwaethygu’r anghyfiawnder oedd yno eisoes.  Pan fydd cymdeithas yn mynd yn sâl, mae'n anochel bod effaith anghymesur ar fywydau'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn hanfodol i ddangos tystiolaeth o hyn.


"Mae'n hollbwysig ein bod yn gweithredu ar hyn os yw pobl ag anableddau dysgu i gael eu cynnwys fel dinasyddion cydradd yng Nghymru fel sy’n cael ei hyrwyddo yn neddfwriaeth allweddol Llywodraeth Cymru megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy'n cymeradwyo pawb a fu'n gweithio ar yr adroddiad hwn am eu hymgysylltiad helaeth â phobl ag anableddau dysgu ac am ein gwerthfawrogi fel pobl gydradd drwy gydol y broses."