Byw drwy’r pandemig: Effaith COVID-19 ar bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru

The Report - impact of COVID-19 on people with learning disabilities in Wales.jpg


Mae’r Uned Datblygu Anableddau Deallusol a Datblygiadol (UDIDD) ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn rhan o’r gwaith o arwain cangen Cymru o astudiaeth fawr yn y DU am brofiadau pobl ag anableddau dysgu drwy’r pandemig COVID-19. Cafodd ei ariannu gan UK Research and Innovation a’i arwain gan yr Athro Chris Hatton (Prifysgol Metropolitan Manceinion) a’r Athro Richard Hastings (Prifysgol Warwick).


Arweiniodd yr Athro Stuart Todd a Dr Edward Oloidi yr astudiaeth yng Nghymru ynghyd â Dr Stephen Beyer o Brifysgol Caerdydd. Ymunwyd â nhw yn y gwaith hwn gan sefydliadau mawr o Gymru, Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.


Gwyddom bellach fod pobl ag anableddau dysgu wedi wynebu risg uwch o farw o COVID-19 na phobl heb anableddau dysgu. Mae gwersi pwysig yno ar gyfer y dyfodol. Yr hyn y mae’r astudiaeth hon yn ei ychwanegu at y dystiolaeth ynghylch y pandemig yw sut beth oedd byw drwy’r pandemig i bobl ag anableddau dysgu?


Er bod llawer o astudiaethau wedi’u cynnal yn y DU ynghylch yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar fywydau pobl, nid oedd y rhain yn tueddu i gynnwys pobl ag anableddau dysgu. Byddai llawer o bobl ag anableddau dysgu yn ei chael yn rhy anodd cymryd rhan yn yr astudiaethau hyn o ystyried y ffordd y cawsant eu trefnu. Yn yr astudiaeth hon, buom yn siarad â dros 150 o bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Gwnaethom siarad â nhw ar dri chyfnod amser gwahanol yn ystod y pandemig. Fe wnaethom hefyd wahodd gofalwyr teulu a staff cymorth â thâl i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein fel ein bod yn gallu dal profiadau unigolion na allent gymryd rhan yn y cyfweliadau. Gwnaeth tua 50 o bobl hyn deirgwaith. Credwn ei bod yn bwysig yma i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hastudiaeth. Roedd yr ymateb a gawsom gan bobl yn aruthrol. Hoffem hefyd ddiolch i aelodau ein tîm a dreuliodd gymaint o amser, a chydag ymrwymiad ac amynedd mawr, yn cefnogi pobl i gymryd rhan yn ein hastudiaeth. DIOLCH I BAWB!


Dywedodd pobl wrthym eu bod wedi cymryd rhan a’u bod yn cefnogi’r ymateb dinesig i’r pandemig yng Nghymru. Gwnaethant hynny nid yn unig er eu diogelwch eu hunain ond hefyd, yr un mor bwysig, er diogelwch eraill. Roedd yr effaith a gafodd hyn arnynt yn negyddol i raddau helaeth o ran mynediad at gymorth iechyd a chymdeithasol ac o ran eu lles. Serch hynny, roedd rhai dimensiynau cadarnhaol. Canfu pobl fod mynediad i lwyfannau digidol a’r defnydd ohonynt yn lliniaru rhai o effeithiau gwaethaf ynysu. Dywedodd rhai pobl eu bod yn adnabod eu cymdogion yn well nag erioed o'r blaen. Er hynny, roedd pobl yn bryderus am eu hiechyd presennol ac yn y dyfodol, nid oeddent yn sicr beth oedd y cyfan yn ei olygu i'w dyfodol a'u bod yn teimlo i raddau helaeth nad oeddent wedi chwarae rhan fawr mewn penderfyniadau a oedd yn effeithio arnynt. Er bod rhai pobl yn teimlo bod y gwaethaf o’r pandemig y tu ôl i ni am y tro, roedd llawer o bobl ag anableddau dysgu yn dal i deimlo eu bod yn byw drwyddo. Roedd pobl yn besimistaidd am y dyfodol. Roedd y teulu a’r gofalwyr cyflogedig a gymerodd ran yn ein hastudiaeth hefyd yn teimlo eu bod wedi’u gwthio i’r cyrion ymhellach nag o’r blaen a byddai’r costau yr oeddent wedi’u talu am eu rhan i’w teimlo am gryn amser i ddod.


Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â’r fersiwn Hawdd ei Darllen (Cymraeg a Saesneg) o’r adroddiad i’w gweld yma. Gallwch ddarganfod mwy am astudiaeth y DU yma.


Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Risg

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Frechiadau

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Fywydau digidol 

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Fynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar yr Effaith ar ofalu, teulu a staff cymorth cyflogedig (Cam 2) 

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Gyfyngiadau 

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Effeithiau ar iechyd corfforol a meddyliol

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Fynediad at gymorth a gwasanaethau 

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar yr Effaith ar ofalu, gofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig (Cam 3) yma

Darllen y briff hawdd ei ddarllen ar Gymorth pan fydd rhywun yn marw